Bwystfil Y Preseli!

Beth yw e? Ai un o ddisgynyddion y Twrch Trwyth? Wel, nid yn hollol! Ras fynydd heriol yw Bwystfil y Preseli ac mae’n cael ei chynnal ar Fai 2fed 2020, ynghanol bryniau godidog y Preseli yng ngogledd Sir Benfro. Yn 2013 bu’r Bwystfil yn rhedeg ar hyd y tirwedd yma am y tro cyntaf gan ennill canmoliaeth arbennig am safon y ras, y daith ddiddorol, y gwobrau, y tywyswyr parod eu cymwynas a’r cefnogwyr brwd ar hyd llwybr y ras. Man cychwyn a gorffen Ras y Bwystfil yw pentref Maenclochog. O fan hyn, dring y rhedwyr ar draws lethrau’r Preselau, lawr i ddyffryn serth ac hudolus Cwm Gwaun gan fwynhau golygfeydd ysblennydd sy’n ymestyn o’r bryniau, ar draws y gwastadeddau i’r môr a’r arfordir trawiadol. Hyd Ras Bwystfil y Preseli yw 24 o filltiroedd, gyda chodiad o thua 4,700 troedfedd (1420m) – tua un a hanner uchder yr Wyddfa!

Ond ma hefyd yr……UltrabeasT! Mae’r ras hyn yn 32 milltir gyda tua chwech fil o trodfeddu!!!

Os yw hynny’n ormod o her y tro ‘ma, beth am roi cynnig ar frawd bach y Bwystfil, sef y Bwystfil Bach. 10 milltir yw hyd y sialens yma gyda chodiad o 1,700 o droedfeddi (540m). Yn ddiau, os wnewch chi gwblhau’r Bwystfil Bach eleni, mae’n siwr y byddwch yn dychwelyd y flwyddyn nesaf i herio’r Bwystfil Mawr! Mae’r tair ras yn rhannu yr un man cychwyn a gorffen, a’r tair daith yn ymestyn i gopa’r Preseli, sef Foel Cwm Cerwyn. Tra bo cystadleuwyr Bwystfil y Preseli yn rhedeg – ddwywaith – trwy ddyffryn Gwm Gwaun ac yn dringo i Garn Ingli, lle cânt fwynhau golygfa wych ar draws Pen Dinas a Bae Trefdraeth, nid yw’r Bwystfil Bach yn cynnwys yr ardaloedd hyn. Gwobrau! Bydd gwobrau arbennig yn cael eu cyflwyno i bencampwyr y dydd o wahanol gategorïau oedran. Ond y wobr fwyaf yw cwblhau sialens Bwystfil y Preseli a’r Bwystfil Bach, ac am wneud hynny, bydd pob un o’r cystadleuwyr yn derbyn crys T arbennig i nodi ei lwyddiant, mat ddiod lechen y Bwystfil, pecyn o fanion bach defnyddiol, cawl, te neu goffi a digon o gacennau blasus. Bydd elw’r dydd eleni yn cael ei haneri rhwng Neuadd Gymunedol Maenclochog a Sefydlaid Aren Cymru; sefydliad sy’n agos iawn at fy nghalon gan bod mab fy nghyfnither wedi cael ei eni gyda nam ar ei aren ac wedi derbyn llawer o gefnogaeth gan Sefydliad Aren Cymru. Bydd ymgynghorwyr therapi chwaraeon De Cymru gyda ni ar y dydd ac fe fydd cyfle hefyd i brynu gwahanol offer chwaraeon ar stondin Cotswolds Outdoor. Mae Cotswolds wedi cytuno, eleni eto, i roddi gwobrau achlysurol/ar y pryd. Cafodd rhain dderbyniad ardderchog llynedd. Tâl cystadlu yn yr UltrabeasT yw £16, Bwystfil y Preseli yw £13, a £10 i’r Bwystfil Bach.

Felly, peidiwch ag oedi. Printiwch y ffurflen ymaelodi a bant â chi i ymarfer ar gyfer sialens y Bwystfil!